Bywyd Gwyllt o amgylch Arfordir Gwynedd

Rydym yn lwcus iawn fod nifer o fathau gwahanol o fywyd gwyllt i’w gael o amgylch arfordir Gwynedd.

Pe byddech yn ddiogon ffodus o ddad ar draws unrhyw rai yna rhowch ddigon o le iddynt eu haflonyddu.

Dyma fanylion rhai math o fywyd gwyllt y medrwch eu gweld o amgylch yr arfordir :-

Dolffiniaid

Mae’n bosib i chi ddod ar draws sawl math gwahanol o Ddolffiniaid gwahanol megis y Dolffin Cyffredin, Trwyn Potel, “Risso’s” a Streipïog. Ar adegau maent yn trafaelio o amgylch yr arfordir mewn niferoedd.

Mae gweld dolffiniaid yn brofiad arbennig iawn, cofiwch arafu a rhoi digon o le iddynt os y dewch ar eu traws.

Llamhidyddion

Ar yr olwg cyntaf mae’n hawdd iawn cymysgu rhwng Llamhidyddion a Dolffiniaid ond mewn difri mae llamidyddion yn dipyn llai o ran maint ac lawer mwy ofnus a swil. Fel gyda dolffiniaid rhowch ddiogon o le iddynt fynd i le bynnag y mynnent a pheidiwch a’u haflonyddu.

"Basking Shark"

Mae’r "Basking Shark" Yn ymwelydd cymharol brin i’r arfordir ond mae yn bosibl i chi ddod ar ei draws yn ystod misoedd yr haf.

Ar olwg cyntaf fe all ymweld yn frawychus iawn oherwydd ei faint (hyd at 11medr) ag ei geg fawr. Mewn difri nid oes unrhyw rheswm ganddo’ch i ofni y creadur yma, symud yn araf y mae wrth fwydo ar blancton

Oherwydd ei faint ag ei fod yn symud mor araf (tua 2 knot) mae’n hynod o bwysig eich bod yn rhoi digon o le iddo a pheidio mynd yn rhu agos ag ei ddychryn.

Morloi

Mae yna nifer fawr o forloi i’w gweld o amgylch yr arfordir – yn aml iawn yn ystod yr haf byddent yn gorweddian ar greigiau yn yr haul.

Ar y cyfan mae’r Morloi yn greadur chwilfrydig a busneslyd a mae’n bosib y dôn yn agosach atoch ar adegau – oherwydd hyn arafwch a rhowch digon o le iddynt.

Adar

Mi nifer o fathau gwahanol o adar i’w gweld o amgylch yr arfordir megis Bilidowcar, Llurs, Heligog, Brân Goesgoch, Gwylanod, Hugan a mwy.

Bywyd gwyllt â ymwelir a arfordir Gwynedd yn achlysurol

Morfil Pigfain

Dros y blynyddoedd diwethaf mae ambell un wedi gweld y Morfil Pigfain o gwmpas yr arfordir.

Ym mis Mawrth 2007 fe fu i forfil pigfain fynd yn sownd ar y treth ger Cricieth ac er i dimau achub geisio ei gael yn ôl i’r môr fe fu iddo farw

Mae’n bosibl i forfil pigfain dyfu hyd at 10 medr  ac i bwysau hyd at 10 tunnell.

Crwban Cefn Lledr

Mae’r crwban cefn lledr yn cael ei weld ar adegau gan rai o amgylch yr arfordir.

Bwydo ar y Slefren Fôr mae’r Crwban yma ac fe all fwyta hyd at pwysau ei gorff ei hun mewn diwrnod. Dim syndod felly y gallent dyfu hyd nes eu bod yn pwyso mwy na 1,000 pwys

Gwyliwch allan rhag ofn taro y crwban yma gan y gallai fod yn bwydo ar wyneb y dŵr.

Nodyn :

Pe byddech i ddod ar draws Morfil, Dolffin neu Grwban mewn trafferthion a wedi ei olch i’r lân dylech gysylltu a Gwyliwr y Glannau neu un o wardeniaid ar y traethau. Byddent hwy wedyn yn trefnu ac yn cydgordio unrhyw ymdrechion i achub yr anifail.