|
Diogelwch
Mae diogelwch personol ag eraill yn hynod o bwysig os yn defnyddio Bad
Dŵr Personol. Beth
ddylwn i ei
wneud a'i sicrhau cyn lansio?
Dyma restr o rhai o'r pethau y dylech wneud cyn
lansio :-
- Edrych ar y
rhagolygon tywydd (fe all y
tywydd fod yn gyfnewidiol iawn a dylech bob amser edrych beth yw'r
rhagolygon).
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn
gwybod amseroedd
llanw a thrai.
- Gwnewch yn siŵr fod ganddo’ch ddillad addas
h.y. Siwt Ddŵr / Sych, Siaced Achub, Esgidiau Dŵr, Menig, Goglau ayyb
- Edrychwch o amgylch
y bad (cefn ac oddi
tanno) i weld os oes rhywbeth yno a all greu anhawster pan fod yr
injan
yn troi - os welwch unrhyw beth gwnewch yn siŵr eich bod yn eu clirio
cyn tanio yr injan.
- Tynnwch y sêt ac edrychwch o
gwmpas yr injan i weld os oes unrhyw beth amlwg o'i le e.e. ceblau /
pibelli rhydd neu fod olew neu petrol yn gollwng (os welwch chi
rhywbeth amlwg neu fod petrol / olew yn gollwng Peidiwch a
thanio yr injan - ewch at eich gwerthwr BDP lleol).
- Edrychwch eto ar ôl tynnu y
sêt
faint o olew a
petrol sydd gennych a gwnewch yn siŵr fod gennych ddigon (mae'n talu
i edrych ar y lefelau petrol ag olew gan bod hi'n bosibl fod naw ar
y dangosydd lefelau electronig).
- Gwnewch yn siŵr fod eich bad yn
tanio ac yn
diffodd pan yn tynnu y "Killcord" (peidiwch
a rhedeg yr injan am ddim mwy na 20 eiliad heb iddo fod ynghlwm i
bibell ddŵr gan bydd yr injan yn gor boethi - mae taniad sydyn yn
hen ddigon i weld os yw popeth yn iawn) .
- Gwnewch yn siŵr fod y plygiau wedi cau.
- Gwnewch yn siŵr fod ganddo’ch ffordd i
gysylltu ag eraill mewn argyfwng pan ydych ar eich bad drwy fynd a
ffôn symudol neu radio VHF gyda chi (cofiwch ni fydd signal ffon ym
mhob man y byddwch yn mynd). Mae hefyd yn syniad da i adael i rhywun
wybod i ble rydych yn bwriadu mynd a tua faint o’r gloch ydych yn
gobeithio bod adref.
- Ewch a
Fflach neu ffon Ffon Loyw gyda chi er mwyn helpu eraill ddod o hyd i chi ag i
dynnu sylw os mewn argyfwng.
- Ewch a rhaff hir gyda chi bob amser rhag ofn
y bydd ei angen arno chi eich hun neu os welwch chi rhywun arall
mewn trafferth.
- Ewch a
bocs "tŵls" sylfaenol a "spark plugs" wrth gefn gyda chi.
- Ewch a bocs cymorth cyntaf syml gyda chi os
oes ganddo’ch le yn eich bad.
- Mae cyllell yn ddefnyddiol rhag ofn bod angen
Tori rhywbeth yn rhydd o'ch bad am unrhyw reswm.
- Eitem arall y buaswn yn argymell fyddai
padl telesgopig - mae
rhain yn ddefnyddiol dros ben os oes ganddo’ch le yn eich bad (gellir
ei ddefnyddio os ewch yn sownd mewn ardal o wymon neu mewn argyfwng
pe byddair injan i beidio tanio a chithau ar y môr).
- Mae angor o rhyw fath i ddiogelu eich bad yn
ddefnyddiol dros ben yn enwedig os am fynd i'r lân am ychydig.
- Gwnewch yn siŵr bod eich "KIllcord" wedi ei
glymu neu ei fachu ynddoch chi fel os y disgynnwch mi wnaiff stopio
yr injan.
Rhywbeth arall hynod o bwysig i gadw llygad arno
drwy gydol y tymor yw cyflwr eich ôl gerbyd - y peth olaf fyddech eisiau
i ddigwydd fydda i'ch bad gael ei daflu i ganol y ffordd fawr am fod
eich strapiau neu "bearings"
ar eich olwynion wedi methu. Mae'n bwysig iawn edrych ar gyflwr y "bearings"
ar eich olwynion cyn unrhyw siwrnai. Y ffordd symlaf i wneud hyn ydi i
godi yr ôl gerbyd gyda jac a thrio symud yr olwyn gyda’ch llaw i weld os
ydyw yn crynu neu ysgwyd. Os ydynt yn crynu neu ysgwyd yn sylweddol yna
mae'n bosibl bod eisiau i chi eu tynhau neu eu newid (dylid gwneud hyn
cyn cychwyn ar eich siwrnai)
Pe byddech eisiau lawr lwytho y rhestr uchod yna
cliciwch yma.
Tynnu eich Bad
Uchafswm cyflymder tynnu bad dŵr personol ar
briffordd yw 50 m.y.a. tra fod yr uchafswm yn 60 m.y.a. ar ffordd ddeuol
neu draffordd.
Fel a nodwyd uchod gwnewch yn siŵr bod
"bearings" eich olwynion
mewn cyflwr da a bod y bad wedi ei ddiogelu gyda strapiau diogel yn y
mannau priodol.
Pwynt arall i gymeryd i ystyriaeth yw diogelu eich
bad ac yr ôl-gerbyd yn enwedig os ydych yn bwriadu ei adael yn rhywle.
Buaswn yn argymell rhoi clamp ar yr olwyn a pharcio mewn lle amlwg ble
medrwch ei weld pob amser os yn bosibl!.
Mae yna ambell stori am bobl wedi picio i'r
gwasanaethau ar y draffordd a pan y maent wedi dod yn ôl mae eu bad dŵr
personol wedi cael ei ddwyn.
Manylion Bwiau
Dyma fanylion a gwybodaeth i chi ynglyn â ystyr y
bwiau gwahanol :-
Bwi Coch :
Ddim yn cael ei ddefnyddio lawer yn Gwynedd ond maent mewn defnydd ar
Draeth y Graig Dd i ddynodi yr ardal ble gellir lansio. Mae uchafswm
cyflymder mewn grym yn y rhan yma o 4 kts.
Bwi
Melyn : Defnyddir y bwiau melyn i ddynodi ardaloedd ble mae
cyfyngiadau cyflymder fel arfer o 4 kts neu ardaloedd ble mae gwaharddiad
mewn lle (edrychwch ar y tudalennau "Safleoedd
Lansio" ar y wefan yma i weld ystyr y bwiau yma ym mhob safle.
Bwiau Coch a
Gwyrdd "Lateral" : Mae rhain yn dynodi
sianelau saff. Pan yn mynd i FEWN i Harbwr yna dylech basio y
Bwi Coch ar y Llaw chwith ar
bwi gwyrdd ar y Llaw Dde.
Mapiau Mannau
Eithriedig
Byddwch yn ymwybodol o'r mannau
eithriedig
yn ymyl y safleoedd lansio ac o amgylch yr arfordir, ardaloedd yw rhain
ble mae badau dwr wedi cael eu cyfyngu i uchafswm cyflymder neu wedi eu
gwahardd yn gyfan gwbwl.
Mae copi o'r holl fapiau ar gael yn y tudalennau "Safleoedd
Lansio" ag yna yn nhudalen penodol pob un o'r safleoedd lansio.
Diogelwch Traethau
Mae Cyngor Gwynedd yn cyflogi nifer o wardeniaid a
goruchwylwyr traethau yn ystod tymor yr haf. Bydd yr aelodau o staff yma
yn bresennol yn y mwyafrif o brif draethau y sir ac ym mhob un o'r
safleoedd lansio a nodi'r ar y wefan yma.
Bydd yr Uned Forwrol yn defnyddio 4 Bad Dŵr
Personol i fonitro yr arfordir yn ystod y tymor - mae'r badau yma wedi
eu amlygu gyda sticeri llachar.
Yn ychwanegol i'r BDP mae gan yr Uned Forwrol
gychod pŵer a fydd hefyd yn goruchwylio arfordir y sir.
Mae yna hefyd aelod newydd i'r fflyd (gweler y
llun isod). Fe ddefnyddir y peiriant yma i gosbi pobl sydd yn torri y
rheolau a rheoliadau!!
Rhifau Ffôn Defnyddiol
Harbwrfeistr Pwllheli : 01758 704 081
neu 07879
433145
Swyddog Traethau Pwllheli : 07831 216 043
Harbwrfeistr Porthmadog : 01766 512 927
neu 07702
719 023
Swyddog Traethau Porthmadog :07702 719 023
Harbwrfeistr Abermaw : 01341 280 671
neu
07795 012 747
Harbwrfeistr Aberdyfi : 01654 767
626
neu 07879 433 148
Cyngor Tref Nefyn (Cyfrifol am Draethau Nefyn a
Morfa Nefyn) : 01758 720 507
VHF : 12 / 16
Gwyliwr y Glannau (Caergybi)
:01407 762 051
Swyddfa Morwrol : 01758 704 066
Ebost Uned Morwrol :
morwrol@gwynedd.gov.uk
|