Rheolau a Rheoliadau

Cymerwch ychydig o amser i ddarllen yn ofalus y rheolau ar rheoliadau isod. Fe'u cyhoeddwyd ar gyfer defnyddwyr Badau Dŵr Personol gan Gyngor Gwynedd.

Bydd tocyn cofrestru'r perchennog / defnyddiwr yn cael ei ddiddymu yn syth pe na fydd y gweithredwr yn cydymffurfio ar rheolau isod.

Rheolau  llestr / bad pŵer ym mhorthladdoedd ac ar arfordir Gwynedd

1.  Mae’n hanfodol fod pob Cwch Pŵer neu Fad Dŵr Personol sydd yn defnyddio, neu groesi rhan o’r arfordir sydd mewn  eiddo, neu reolaeth Cyngor Gwynedd, wedi cofrestru gyda Chyngor Gwynedd, (nid oes angen i lestrau llai na 10hp gofrestru).

1.1  Mae ffi cofrestru yn daladwy, a bydd yn rhaid dangos tystiolaeth o yswiriant trydydd parti isafswm £2 miliwn.

1.2  Mae’n orfodol fod yr hawlen cofrestru yn cael eu harddangos mewn safle amlwg a gweladwy ar ochr port a starbord y llestr uwch ben y llinell dwr. Ni chaniateir unrhyw rifau eraill. Ni chaniateir lansio pe na fydd yr hawlen yn cael ei arddangos.  Plîs nodwch; ni chaniateir trwyddedi lansio blynyddol Cyngor Gwynedd ar draethau Nefyn na Morfa Nefyn.

1.3  Ni chaiff defnyddwyr Cychod Pŵer na Badau Dŵr awdurdod i lansio ar unrhyw draeth neu harbwr pe na fyddai’r perchennog wedi cofrestru ei lestr gyda Chyngor Gwynedd, neu os yw ei gofrestriad wedi’i ddiddymu.

1.4  Rhaid talu ffi lansio ar bob safle lansio.
2.  Gofynion Oed:

2.1  Rhaid bod o leiaf yn 18 oed cyn defnyddio Cwch Pŵer neu Fad Dŵr Personol heb gymhwyster.

2.2  Rhaid bod o leiaf yn 15 i 17 gyda Tystysgrif Cymhwysedd G.H.F. ar gyfer Badau Dŵr neu dystysgrif Cwch Pŵer Lefel Dau, ar gyfer mordwyo Bad Dŵr Personol neu Gwch Pŵer heb oruchwyliaeth. Dylai’r tystysgrifau fod  ar gael i’w harchwilio ar unrhyw adeg.

2.3  Rhaid bod yn 12 i 14 oed, gyda thystysgrif cymhwysedd G.H.F. ar gyfer Badau Dŵr neu dystysgrif Gwch Pŵer Lefel Dau cyn y caniateir mordwyo o dan arolygaeth uniongyrchol oedolyn. Diffiniad ‘Goruchwyliaeth’ yw mae’n hanfodol y bod yna oedolyn ar fwrdd y llestr drwy’r adeg.

2.4  Dan 12 oed – ddim i lywio Cwch Pŵer neu Fad Dŵr Personol ar unrhyw adeg.

3.  Cyfyngiadau Cyflymdra:
3.1  Cyflymdra di-drochion o fewn 50 metr o fad dwr arall, cwch, doc, nofiwr, sgïwr, pysgotwr, neu offer pysgota.

3.2  Rhaid cydymffurfio â chyfyngiadau cyflymdra Cyngor Gwynedd mewn ardaloedd dynodedig. Lle nad oes cyfyngiad cyflymdra penodedig, y cyflymdra uchaf yw 4 MILLTIR FÔR, oddi fewn 100m i’r draethlin (o fan is y llanw) ac o fewn unrhyw harbwr.

3.3  Ni chaniateir mordwyo llestr  / bad pŵer mewn ardaloedd gwaharddedig.

3.4  Gwaherddir badau a weithredir gan bŵer rhag mynd ar unrhyw barth diogelwch traeth oni bai y defnyddir ardal lansio penodol ar gyflymder cyfyngedig.

4.  Ni chaniateir mordwyo dan ddylanwad diod alcohol neu gyffuriau.

5.  Mae yn drosedd i aflonyddu bywyd gwyllt.  Ni chaniateir aflonyddu dolffiniaid, llamidyddion, siarcod neu unrhyw fath o fywyd gwyllt.

6.  Daw perchnogion a cherbydau i'r mannau lansio ar eu cyfrifoldebau eu hunain ac mae'n rhaid glynu at gyfarwyddiadau Swyddogion y Cyngor.

7.  Anogir defnyddio badau pŵer mewn ffordd gyfrifol bob amser - byddwch yn ystyrgar o eraill. Mae’n rhaid cydymffurfio â  ‘Rheoliadau Rhyngwladol Atal Gwrthdrawiadau ar y Môr’ bob amser. 

8.  Dylai llywiwr y llestr sicrhau fod y ‘killcord’ wedi ei gysylltu yn ddiogel i’r peiriant, ac mae’n orfodol dilyn argymhellion y cynhyrchwyr.  Ni ddylai unrhyw lestr fod yn mordwyo os na fydd y cortyn wedi ei gysylltu yn gywir.  Mae’n orfodol fod yr adlyn ‘killcord’ yn cael ei arddangos ar y llestr drwy’r amser.

9.  Ni chaniateir sgïo ar y dŵr heb arsyllwr annibynnol. Ni chaniateir tynnu neu lusgo tegan gwynt oddi fewn i unrhyw harbwr, parth gwahardd cychod neu o fewn 100m o’r draethlin.  Bydd lleiafrif o ddau unigolyn ar fwrdd unrhyw lestr fydd yn tynnu neu lusgo bob amser.

 BYDD TOCYN COFRESTRU’R PERCHENNOG / DEFNYDDIWR YN CAEL EI DDIDDYMU YN SYTH PE NA FYDD Y GWEITHREDWR YN CYDYMFFURFIO A RHEOLAU UCHOD.

I lawr lwytho copi o'r Rheolau ar Rheoliadau cliciwch Yma