Lansio eich Bad yn Gwynedd

Mae cynllun cofrestru llym mewn lle ar gyfer defnyddio Bad Dŵr Personol yng  Gwynedd. Fel rhan o’r cynllun mae’n ofynnol eich bod cofrestru eich bad a thalu ffi lansio gyda Cyngor Gwynedd os ydych am lansio o unrhyw un o draethau’r sir.

Sut ydw i yn Cofrestru BDP ?

Mi fedrwch wneud hyn mewn un o ddwy ffordd sef :-

Yn gyntaf medrwch lawr-lwytho y "Ffurflen Gofrestru" swyddogol a gynhyrchir gan y Cyngor drwy glicio yma.

Unwaith ydych wedi ei gwblhau rhaid ei yrru drwy'r post ynghyd a copi o’ch tystysgrif yswiriant (rhaid bod ganddo’ch atebolrwydd hyd at £3 miliwn) a siec am £15 wedi ei wneud i Cyngor Gwynedd i :-

Er Sylw : Esyllt Hughes

Uned Morwrol,

Cyngor Gwynedd,

Swyddfa Ardal Dwyfor,

Ffordd y Cob,

Pwllheli,

Gwynedd

LL53 5AA

Ar ôl i’r uned brosesu eich cais yna byddent yn gyrru eich sticeri cofrestru i chi. Pan ydych yn derbyn y sticeri rhaid eu harddangos mewn mân blaenllaw ar y bad (fel eu bod yn amlwg uwchlaw lefel dŵr ac y medr gael eu gweld o’r lân)

Yr ail ffordd yw i chi fynd a’ch dogfennau tystysgrif yswiriant (gyda atebolrwydd o oeliaf £3 miliwn), i'ch Swyddfa Harbwr leol yng Ngwynedd

neu

Cewch gofrestru gyda un o wardeniaid yr uned forwrol yn y safleoedd lansio o amgylch y sir.

Os ydych yn cofrestru yn y dulliau yma mae’r ffi sydd yn ddyledus i Gyngor Gwynedd yn uwch ac yn £20.

PWYSIG

Ar ôl i chi gofrestru eich Bad am y tymor sef o Ebrill y 1af i 31ain o Fawrth y Flwyddyn ganlynol RHAID talu £12 bob tro ydych yn lansio eich Bad

Os ydych eisiau osgoi talu £12 bob tro ydych yn lansio mae Cyngor Gwynedd yn cynnig tocyn lansio am y tymor am £130 (cynnwys ffi cofrestru) os ydych yn gwneud cais drwy’r post. Os ydych bru’n bynnag eisiau ei brynu ar y diwrnod yna mi wnaiff gostio £150 i chi (cynnwys ffi cofrestru).

Edrychwch ar y tabl isod sy’n rhoi manylion ffioedd a ffrisiau ar gyfer 2010/11.   

Ffi Lansio o Chofrestru

Badau Dŵr Personol (Jet Ski) a Cychod pŵer

Prisiau yn cynnwys TAW

2010-11

Ffioedd Lansio

 

Lansio Dyddiol

12.00

Hawlen Lansio Blynyddol (Ceisiadau Post - cynnwys ffi cofrestru

130.00

Hawlen Lansio Blynyddol (Ceisiadau mewn person ar y safle - cynnwys ffi cofrestru)

150.00

Ffi Cofrestru (hanfodol pob blwyddyn)

 

Ffi Cofrestru Blynyddol (ceisiadau post yn unig)

15.00

Ffi Cofrestru Blynyddol (ceisiadau personol ar y safle)

20.00

   
Trosglwyddo Rhif Cofrestru - Ailddodiad Rhif Cofrestru - Post yn unig

15.00

 

Cyn i chi lansio eich bad dŵr personol maen bwysig ofnadwy eich bod yn darllen a deall y "Rheolau a’r Rheoliadau". Bydd hyn yn sicrhau eich bod chi yn ddiogel ac yn sicrhau bod arfordir Gwynedd yn le diogel i eraill.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y rheolau a’r rheoliadau yma bob tro.

Ble fedrai Lansio BDP ?

Ar ôl i chi gwblhau y broses gofrestru tocyn tymor a dyddiol mi fedrwch lansio eich bad yn unrhyw o’r safleoedd canlynol :-

1. Trefor

2. Nefyn

3. Morfa Nefyn (Porthdinllaen)

4. Aberdaron

5. Abersoch

6. Pwllheli

7. Criccieth

8. Traeth y Graig Ddu

9. Porthmadog

10. Abermaw

11. Fairbourne

12. Tywyn

13. Aberdyfi

 

Rwyf wedi Cofrestru fy mad dwr personol yn Sir Conwy neu Fôn. Ydi fy nghofrestr yn ddilys i Wynedd?

Yr ateb syml yw "YDI". Mae cytundeb rhwng y tri Cyngor fod cofrestr o un o'r dair Sir yn ddilys yn y gweddill.

Oll sydd rhaid i chi dalu fydd y ffi lansio dyddiol.

Yn syml dim ond y cofrestr sy'n ddilys yn y dair Sir bydd rhaid talu tal lansio ar wahân ym mhob Sir.