|
Newyddion a Cyhoeddiadau Mi wnaf bostio yma unrhyw newyddion perthnasol i'r wefan neu gyhoeddiadau perthnasol i lansio eich bad dŵr yng Ngwynedd. O bryd i'w gilydd yn ystod y tymor fe all fod yma gyhoeddiadau gan yr Uned Forwrol felly dylech edrych ar y dudalen yma fel yn bosib. Sticeri Y Wefan Nawr Ar Gael !!! Mae sticeri y wefan nawr ar gael i chi. Fe geir dewis o ddau liw, unai gwyn neu ddu fel y gwelir yn y llun isod. Mae'r sticeri tua 30cm mewn hyd a tua 5cm mewn uchder. Nid oes cefndir arnynt felly os oes ganddo’ch fad du dylech gael sticer gwyn ac os oes bad gwyn ganddo’ch yna bydd angen sticeri du arnoch. Fe fyddaf yn gwerthu y sticeri am yr union gost o'u cynhyrchu (60c yr un), os oes ganddo’ch eisiau sticeri yna cysylltwch a mi unai drwy'r Fforwm neu drwy E-bost. Hoffwn ddiolch yn arbennig i gwmni Air Time Products am wneud y sticeri.
|