|
YMUNWCH A FFORWM BDP GWYNEDD HEDDIW !!
Croeso i BDP
Gwynedd,
Bwriad y wefan yma ydi i hybu a
hyrwyddo defnydd diogel a chyfrifol o Fadau Dŵr Personol o fewn Sir Gwynedd, ac
i ddod ynghyd â chroesawu pobl sydd yn mwynhau defnyddio Badau Dŵr Personol.
Fel defnyddiwr cyson o Fad Dŵr
Personol rwyf wedi treulio amser helaeth ar fy Seadoo o amgylch arfordir y Sir.
Gobeithiaf y byddech yn gweld y
wefan yma yn ddiddorol, buddiol ac o gymorth i chi.
Mae croeso i pawb ar y wefan dim
ots pa fath o Fad Dŵr sydd ganddo’ch, neu hyd yn oed os nad oes ganddo’ch Fad Dŵr
ond eich bod eisiau dod o hyd i fwy o wybodaeth.
Pam BDP
Gwynedd ?
Mae’n syml a deud gwir mae’r BDP yn
sefyll am “Badau Dŵr Personol”. Efallai eich bod yn fwy cyfarwydd gyda’r term
“Jetski” ond enw masnachol gan gwmni Kawasaki ydi hwn sydd wedi bod yn cael ei
ddefnyddio yn gyffredinol am y math yma o beiriant.
Eich Rôl
Er mwyn sicrhau llwyddiant y wefan
hon rwyf yn dibynnu ar gefnogaeth y gymuned defnyddwyr Badau Dŵr Personol a
buaswn yn gwerthfawrogi ac yn eich annog i yrru i
Mi :-
- Lluniau ohonoch chi a’ch Bad
Dŵr a manylion
pwy ydych ag ym mha ardal ydych yn byw. Byddaf wedyn yn rhoi y
manylion ar y tudalen “Galeri a Straeon”.
- Lluniau o unrhyw deithiau yr ydych wedi eu
gwneud o amgylch arfordir Gwynedd a tipyn o’r hanes. Eto byddaf wedyn
yn rhoi y manylion ar y tudalen “Galeri a Straeon”.
- Lluniau o achlysuron ble ydych wedi dod
ynghyd neu chyfarfod a phobl eraill sydd yn defnyddio y wefan BDP
Gwynedd. Eto byddaf wedyn yn rhoi y manylion ar y tudalen “Galeri a
Straeon”.
- Manylion a lluniau o unrhyw
eitem y buasech yn
hoffi eu gwerthu neu eu prynu er mwyn diweddaru y tudalen “Ar Werth
/ Eisiau”.
- Unrhyw awgrymiadau ynglyn
a'r wefan - beth y byddech yn
hoffi ei weld, beth ydych yn hoffi / ddim yn
hoffi am y wefan.
- Adolygiad Bad
Dŵr ac adolygiadau
Traethau /
Llithrfa er mwyn eu cynnwys yn y tudalennau “Adolygiadau”.
Fe sylwch hefyd ar y bar offer bod
cyfleuster “Fforwm” ynghlwm ar wefan, mae llwyddiant y cyfleuster yma yn
ddibynnol YN LLWYR arnoch chi.
Buaswn yn ddiolchgar pe byddech yn cymeryd
ychydig funudau i gofrestru ar y fforwm, wedyn rydych yn rhydd i ymuno ar
gymuned BDP Gwynedd ar-lein, a phostio cwestiynau, syniadau, barn a gofyn am
gymorth a chyfarfod pobl newydd.

|