|
Galeri a Straeon
Dyma gyfle i chi
gyfrannu tuag at y wefan drwy
yrru i mi unrhyw luniau diddorol o
ddiwrnodau ar eich Bad Dŵr yng Ngwynedd, lluniau o gyfarfodydd gyda
defnyddwyr eraill o’r wefan yma, neu unrhyw straeon difyr ynglyn â diwrnod
i chi eu gael ar eich Badau Dŵr e.e. a welsoch chi unrhyw fywyd gwyllt
diddorol? wnaethoch chi drio chwaraeon dwr newydd fel Ton Fordio
(Wakeboard) neu sgïo dŵr ?, a wnaethoch chi fentro i diwb tu ôl i fad
dŵr ayyb. Os ydych am gyfrannu yna a wnewch roi manylion o pwy ydych chi
ag o ba ardal ydych yn dod fel bod posibl i ni gael blas o pwy ydi pwy.
1. Dyma ychydig o
luniau gan Andy ac Oliver o'r diwrnod pan y buon nhw i fynd o draeth y
Graig Ddu i Abersoch yn ddiweddar.
2. Dyma luniau gan Mitch o rhai o'r
diwrnodau da y mae wedi ei gael ar draeth y Graig Ddu gyda'r teulu a
ffrindiau. Mae'r tywydd tipyn cynhesach pan dynnwyd rhain!
3. Dyma luniau ohonof i yn ymyl
Criccieth yn ystod mis Awst 2007, a llun fy Seadoo GSX ar ôl diwrnod
allan ar y dŵr,
yn traeth y Graig Ddu (i ble aeth yr haf dwedwch.....??)
4. Dyma lun Malcolm
wrth ei waith yng Nghaernarfon ar un o'r badau dŵr
Cyngor Gwynedd, fel arfer mae'r bad yma i'w weld
yn traeth y Graig Ddu neu sianel Porthmadog.
1,
2,
3,
4
|